Capel y Pentre

DSCN0556b.jpg 

Swyddogion

 

Mrs Llinos Rawson                 (Trysorydd)

Mrs Carys A. Williams          (Ysgrifennydd)

Mrs Deryl Roberts

Mrs Nina E. Eilliams                (Gofalwr y Cyhoeddiadau)

 Trefn y Gwsanaethau 

 

Oedfa bore Sul am 10:00 neu 11:15

Ysgol Sul am 10.00

Cynhelir Cyfarfodydd o'r Gymdeithas a'r Chwiorydd rhwng Hydref a Mawrth

 Hanes yr Achos

 

Yn ôl pob sôn, dywedir mai ar fuarth fferm Pentre Llech, nepell o safle’r capel presennol, yr arferai cynulliad o Anghydffurfwyr y Pentre gyd-gyfarfod weithiau, a hynny yn sgîl ymweliad y Parchedig Robert Roberts, Clynnog.  Yn fuan iawn lledaenwyd brwdfrydedd yr ardal hon ynglŷn â delfrydau Calfiniaeth, a hynny drwy eiddgarwch a sêl rhai o’r hoelion wyth lleol megis Thomas Parry, Rhewl, ac Edward Jones Maes y Plwm, y ddau o Brion.

Erys y ddyled o sefyldu’r Ysgol Sul i’r enwog Thomas Charles o’r Bala.  Cynhaliwyd hi ym Modafon gyda Richard Hughes yn arolygwr arni, hyn cyn i’r Ysgol ymsefydlu yn y capel gwreiddiol, a adeiladwyd ym 1809.

Ar safle’r capel presennol yr adeiladwyd y capel gwreiddiol.  Yr oedd yng ngofal pedwar swyddog, John Davies, Pen-y-Bryn; John Williams; William Jones, Y Pentre; a Dafydd Wynne o’r Llwyn.  Ond er codi capel, nid oedd bugail i ofalu amdano, a gorfu i’r Cyfarfod Misol ymgymeryd â’r gwaith o sicrhau presenoldeb gweinidog yma.  Wedi peth amser fynd heibio, dewiswyd David Davies, blaenor o’r Groes i fugeilio’r Eglwys ym 1830.

Gyda chanol y ganrif yn nesáu, gwelwyd yr Achos yn y Pentre, fel yn wir yng Nghymru gyfan, yn mynd o nerth i nerth.  ‘Roedd y capel gwreiddiol yn prysur fynd yn rhy fychan i’r addolwyr, a bu’n rhaid ehangu ym 1844 trwy ychwanegu oriel ynddo.

Blwyddyn hanesyddol o safbwynt Anghydffurfiaeth fu 1859 – blwyddyn y Diwygiad Mawr.  Esgorodd y penllanw hwn ar frwdfrydedd o’r newydd yn y Pentre.  Cymaint fu’r diddordeb nes gorfu i’r capel gwreiddiol gael ei ddymchwel oherwydd prinder lle, a chodwyd un mwy.

Digwyddiad pwysig yn hanes yr Achos fu agor y capel presennol ym mis Mawrth 1869 – capel a gynllunwyd gan Richard Owen, Lerpwl.  Fe’i adeiladwyd am gôst o dros £978 – swm sylweddol bryd hynny.  Yn wir, ‘roedd yr aelodau’n wynebu her eithriadol yn mentro codi’r fath arian.

Drwy ddycnwch yr aelodau a rhoddion hael gan rai o gyfeillion yr ardal, llwyddwyd i glirio’r ddyled ariannol erbyn 1890, yn ystod gweinidogaeth y Parchedig David Jones.

Ond fe ddaeth anhawsterau i’r wyneb.  Er gwaethaf yr adfywiad a gafwyd yn y Pentre ym 1875 dan weinidogaeth y Parchedig John Jones o’r Rhos, collodd yr eglwys bresenoldeb rhai o’i swyddogion mwyaf blaenllaw, a bu heb weinidog am gyfnod cyn i’r Parchedig Morris Williams, Dinbych, ddod i gynorthwyo trwy gynnal cyfarfodydd wythnosol ym 1878.

Gadawodd y Pachedig David Jones y Pentre ym 1897, ar ôl derbyn galwad i fynd i wasanaethu yn Rhuddlan a’r cylch.  Fe’i dilynwyd gan y Parchedig Richard R. Jones, Johnstown .  Ond byr fu ei arhosiad yma gan iddo adael ymhen chwe mlynedd a mynd tua Sir y Fflint i wasanaethu.

Ym 1906 derbyniodd y Parchedig Edward Thomas, Tregarth, wahoddiad i wasanaethu yn y Pentre, a chartrefodd yn Nolwar – y Mans newydd a gwblhawyd am gôst o £812.  Bu’n gartref i weinidogion am flynyddoedd lawer wedyn.  Rhaid oedd ateb y gôst ariannol hon eto.  Unwaith yn rhagor, llwyddwyd i wneud hynny drwy haelioni’r aelodau, a gellir crybwyll yn y fan yma i’r capel dderbyn rhodd o £10 gan wraig David Davies, Llandinam, a ystyrir fel un o ddiwydianwyr mwya’r cyfnod.

Ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf ymadawodd y Parchedig Edward Thomas am Lŷn, a daeth y Parchedig Caradog Rowlands, Ffynnongroew, yn ei le.  Tua 147 o ffyddloniaid oedd yng Nghapel y Pentre erbyn hyn. Gadawodd ym 1920 gan ymsefydlu yng Ngwyddelwern a Moeladda.  Blwyddyn yn ddiweddarach, ymunodd Capel y Pentre ag eglwysi’r Glyn a’r Wern yn un ofalaeth.  Yn ystod yr un flwyddyn derbyniodd y Parch Robert Davies, Cwmtirmynach, alwad i weinidogaethu’r ofalaeth, a gwasanaethodd yma am agos i 17 mlynedd.

Ym 1940 sefydlwyd y Parchedig J. L. Mathias, B.A., B.D., yn weinidog ar y Pentre a’r Wern, a bu’n gwasanaethu hyd 1948 pan dderbyniodd alwad i Lanberis.  Fe’i olynwyd ef gan y Parchedig R. Hughes Edwards.  Drwy gydol y pumdegau bu nifer yr aelodau yn gyson yn y capel oddeutu 140, gyda nifer aelodau yr Ysgol Sul yn tynnu am gant, ac ambell flwyddyn ychydig drosodd.

Yn wir, patrwm o gynnydd a welir yma ac y mae’r Eglwys wedi parhau i gynyddu dan weinidogaeth y Parchedig Arthur Jones, a ddaeth yma ym 1962 o Landrillo.  Erbyn heddiw saif nifer aelodau yr Eglwys oddeutu 220 o’i gymharu â 158 pan ddaeth Mr Jones yma.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 






Community Web Kit provided free by BT