097.JPG

EGLWYS Y CAPEL MAWR A SEION, DINBYCH

Swyddogion

Mr R.R. Griffiths

Mr Gwilym Luke Jones (Trysorydd)

Mr Stanley Lyall   (Ysgrifennydd)

Mrs Ceinwen Jones

Mr Ifor John Jones

Mrs Nerys Ann Roberts

Mrs Cheryl Willims

Mrs Angharad Rhys

Mrs Dilys Davies (Y Fron) (Gofalwr y Cyhoeddiadau)

 Trefn y Gwasanaethau 

Oedfa'r bore am 10:00  (bob yn ail Sul a Chapel y Fron)

Oedfa'r hwyr am 5.30   (bob yn ail Sul a Chapel y Fron)

Ysgol Sul y Plant  wedi'r gwasanaeth dechreuol (Bob yn ail Sul)

Cyfarfod Gweddi Cenhadol  am 1:30 o'r gloch ar y Dydd Llun cyntaf o'r mis

Hanes yr Achos  

Mae gwreiddiau'r Capel Mawr yn mynd yn ôl i'r ddeunawfed ganrif. O 1741 fe ddechreuodd pregethwyr Calfinaidd wneud eu ffordd i Ddinbych a chyn bo hir yr oedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal yn, ac ar ymylon y dref, llawer ohonynt mewn hen sgubor. Erbyn 1793 yr oedd y gynulleidfa wedi gordyfu'r adeilad hwn. Fe benderfynasant ddymchwel yr ysgubor ac adeiladu capel yn ei lle. Dim ond 30 troedfedd sgwâr yr oedd yn mesur.

Roedd tŵf y mudiad yn Ninbych yn aruthrol. Fe gafodd y capel gwreiddiol ei ymestyn yn 1805 ac eto yn 1813. Yn 1829 fe adeiladwyd adeilad cwbl newydd ar y safle, sylfaen y capel presennol.

Mae wedi ei adeiladu i gynllun oedd yn gyffredin ar y pryd ond a gollodd ei boblogrwydd, sef adeilad petryal hir, gyda drysau ar bob pen i'r waliau hiraf, a'r pulpud rhwng y drysau. Ffynhonnell y cynllun oedd yr ygubor mewn cae le y bu i lu o gynulleidfaoedd Methodistiaid Calfinaidd, gan gynnwys y Capel Mawr, ddechrau eu bywyd. Fe aeth drwy amryw o newidiadau, ac fe gafodd yr adeilad gwreiddiol ar lun ysgubor ei addurno mewn arddull Eidalaidd ochelgar.

Fe gafodd y Capel Mawr ei newid yn 1857-1860, ac eto yn 1879-1880, pan symudwyd y pulpud i'w safle presennol ac yr adeiladwyd y cyntedd sgwâr. Fe gafodd yr ysgoldy ei hadeiladu yn 1892 ac yn 1905 fe adeiladwyd ac fe osodwyd yr organ gan Alex Young a'i Feibion, Manceinion.

Mae nifer o bobl enwog yn gysylltiedig â'r Capel Mawr:

Thomas Edwards "Twm o'r Nant" (1739-1810) bardd, awdur anterliwtiau

Thomas Gee (1815-1898) argraffydd, cyhoeddwr, gweinidog,gwleidydd, dadleuwr. Mae ei argraffdy, Gwasg Gee heb fod nepell o'r capel.

David Lloyd George (1863-1945) - gwleidydd, arweinydd rhyfel, cynllunyd diwygiad cymdeithasol. Fe anerchodd Lloyd George gyfarfod enfawr yn Y Capel Mawr yn ystod etholiad cyffredinol 1906, pan enillodd ef a'r Rhyddfrydwyr fuddugoliaeth ysgubol.

Thomas Jones (1756-1820) - awdur, bardd, pregethwr; yn gofalu am y Capel Mawr o 1806 - 1820. Calfin cymedrol, un o'r Gweinidogion cyntaf i gael ei ordeinio yn dilyn y rhwyg â'r Eglwys Sefydliedig yn 1811.

John Roberts y Cantwr Mawr (1806-1879) - emynydd a cherddor.

Kate Roberts (1891- 1985) un o nofelwyr ac awdur straeon byrion Cymraeg mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif.

Gwilym R Jones (1903-1993)
Un o addolwyr enwocaf y Capel Mawr oedd Gwilym R Jones y llenor, mab i chwarelwr o Ddyffryn Nantlle. Bu'n olygydd y Faner yng Nghwasg Gee ac enillodd y Goron yn Lerpwl (1935), y Gadair yng Nghaerdydd (1938) a'r Fedal Ryddiaeth yn Hen Golwyn (1942).

Mathonwy Hughes (1905 - 1999)
Yn enegigol o Ddyffryn Nantle fel ei gyfaill Gwilym R Jones. Ugain oed oedd Mathonwy pan enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Tal-y-Sarn. Enillodd dair cadair yn y flwyddyn hon, ac un arall pan oedd yn 22 oed. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol 1956, a chyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth, pedwar casgliad o ysgrifau, cyfrol o hunangofiant a chyfrol deyrnged i Gwilym R. Jones. Bu'n olygydd cynorthwyol Baner ac Amserau Cymru o 1949 hyd ei ymddeoliad ym 1979, ac yn aelod brwdfrydig, fel myfyriwr a darlithydd, o Fudiad Addysg y Gweithwyr.

 

 







Community Web Kit provided free by BT